Newydd ei chreu y mae’r gynghrair tlodi tanwydd, a’i nod yw datblygu’r agenda tlodi tanwydd yng Nghymru ac ymgyrchu dros gael gwared ar dlodi tanwydd yng Nghymru. Rydym yn bwriadu gwneud hyn ar y cyd â Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae’r gynghrair yn cynnwys nifer o sefydliadau allweddol sy’n ymwneud â’r agenda tlodi tanwydd, ac fe’i harweinir gan Lais Defnyddwyr Cymru ac NEA Cymru. Mae sefydliadau ynghlwm sy’n cynrychioli grwpiau allweddol yr effeithir arnynt gan dlodi tanwydd, megis plant a phobl ifanc, pobl ag anableddau, pobl sydd â chyflyrau iechyd tymor hir, tenantiaid tai cymdeithasol, pobl sy’n byw mewn tai sy’n anodd eu trin mewn ardaloedd gwledig, pobl sydd ar incwm isel a phobl hŷn.
Mae aelodau ein grŵp llywio yn cynnwys Cyngor ar Bopeth Cymru, Age Concern Cymru a Help the Aged Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru, Plant yng Nghymru, Ecoganolfan Gorllewin Cymru, Cymorth Canser Macmillan, Shelter Cymru, Anabledd Cymru, Oxfam Cymru, Gofal a Thrwsio Cymru, Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, NEA Cymru a Llais Defnyddwyr Cymru.
Ynghylch y cynghrair tlodi tanwydd