Trobwynt yn y frwydr yn erbyn tlodi tanwydd yng Nghymru

Rydym o’r farn na ddylai unrhyw un yng Nghymru orfod byw mewn cartref oer. Dyna pam y mae sefydliadau allweddol yng Nghymru wedi dod ynghyd i ffurfio cynghrair, a arweinir gan Lais Defnyddwyr Cymru a Gweithredu Ynni Cenedlaethol (NEA) Cymru, ac wedi datblygu siarter tlodi tanwydd, er mwyn amlygu’r camau brys yr ydym ni’n ei gredu sydd eu hangen i gael gwared ar dlodi tanwydd yng Nghymru.

Rydym yn galw am:

  • Gynllun gweithredu manwl sy’n nodi sut a pha bryd y gwaredir tlodi tanwydd yng Nghymru
  • Cynorthwyo pob aelwyd tlodi tanwydd i aros yn gynnes – hyd y bydd tlodi tanwydd wedi ei waredu
  • Ymagwedd gydgysylltiol ac unedig ar draws y sector statudol (ar lefel Cymru a’r DU) sy’n cynnwys partneriaid o’r sectorau preifat, gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gymeradwyo’r siarter ac i weithredu blaenoriaethau’r polisi y mae’n ei gyflwyno fel pecyn cynhwysfawr er mwyn i bob aelwyd yng Nghymru elwa ar gysur cartref cynnes. Cyn bo hir, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn lansio strategaeth tlodi tanwydd newydd i Gymru a byddai’r gynghrair yn hoffi gweld y galwadau a amlinellir gennym yn ein siarter yn cael eu cynnwys yn y strategaeth hon.

Cewch lawrlwytho copi o’r siarter yma. I gael copi caled cysylltwch â ni .

Cafodd y siarter ei lansio ar 20 Hydref ym Mae Caerdydd. Daeth Jane Davidson AS, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, i’r digwyddiad, a derbyniodd y siarter ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cewch lawrlwytho copi o’n datganiad i’r wasg yma.

Arweinir y gynghrair tlodi tanwydd gan Lais Defnyddwyr Cymru ac NEA Cymru, ac fe’i cefnogir gan gr?p llywio sy’n cynnwys amrywiaeth o sefydliadau allweddol yng Nghymru sy’n gweithio i ddatblygu’r agenda tlodi tanwydd. Mae’r rhain yn cynnwys: Cyngor ar Bopeth Cymru, Age Concern Cymru a Help the Aged Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru, Plant yng Nghymru, Ecoganolfan Gorllewin Cymru, Cymorth Canser Macmillan, Shelter Cymru, Anabledd Cymru, Oxfam Cymru, Gofal a Thrwsio Cymru, Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, NEA Cymru a Llais Defnyddwyr Cymru.

Siarter Tlodi Tanwydd