Tlodi Tanwydd yng Nghymru

Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU ddyletswydd gyfreithiol dan Ddeddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000 i wneud popeth sy’n rhesymol bosibl i ddileu tlodi tanwydd. Mae biliau ynni aelwydydd wedi cynyddu 33 y cant ar gyfartaledd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sef mwy na £1,200 y flwyddyn a dwywaith cymaint â biliau cyfartalog bum mlynedd yn ôl. Ychwanegir at y broblem o brisiau ynni uchel yng Nghymru gan ansawdd gwael y stoc tai, y nifer fawr o aelwydydd sydd ar incwm isel ac mewn tlodi, yn ogystal â diffyg mynediad at y prif rwydwaith nwy.  

Mae bron i chwarter yr aelwydydd yng Nghymru yn dioddef tlodi tanwydd, sy’n golygu bod yn rhaid i 320,000 o aelwydydd wario 10 y cant neu fwy o’u hincwm ar ynni i wresogi eu cartrefi’n ddigonol. Gallai hyn olygu bod pobl yn gorfod dewis rhwng gwresogi a phweru eu cartrefi a bwyta’n iawn. Yng Nghymru, mae perchenogion tai yn talu 5 y cant yn fwy am drydan na gweddill y DU, ac mae 50,547 o aelwydydd mewn dyled i gyflenwyr trydan a 46,588 mewn dyled i gyflenwyr nwy.

Mae effaith tlodi tanwydd yn mynd ymhellach na chanlyniadau ariannol. Gall byw mewn tlodi tanwydd effeithio ar iechyd pobl, gan gynyddu’r risg o gael afiechydon cyffredin megis annwyd, ffliw a heintiau anadlol gan gynnwys broncitis. Mae hyn wedi arwain at fwy na 1500 o farwolaethau ychwanegol y flwyddyn yng Nghymru bob gaeaf, ac mae pobl h?n yn enwedig mewn perygl o ddioddef hyn. Ceir canlyniadau anuniongyrchol hefyd: straen ymhlith plant ac oedolion ac iselder a phryder tymor hir, eithrio cymdeithasol, ac effaith ar iechyd a chyfleoedd bywyd teuluoedd ac unigolion, ac ar gyrhaeddiad addysgol. Yn ogystal â hyn, ceir goblygiadau economaidd ehangach ar gyfer gwasanaethau addysg, cyflogaeth ac iechyd yng Nghymru.

Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru dargedau y mae’n ymrwymedig iddynt yn gyfreithiol i ddileu tlodi tanwydd ymhlith cartrefi agored i niwed erbyn 2010, ac yn yr holl dai cymdeithasol erbyn 2012 ac ym mhob cartref erbyn 2018. Oherwydd y cynnydd mewn prisiau ynni, mae’n annhebygol y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyrraedd ei tharged o ddileu tlodi tanwydd ymhlith cartrefi agored i niwed erbyn 2010. Felly, er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn symud i’r cyfeiriad cywir, mae rhanddeiliaid allweddol wedi dod ynghyd i ddatblygu siarter tlodi tanwydd i amlygu’r camau brys y mae angen eu cymryd er mwyn codi aelwydydd o sefyllfa o dlodi tanwydd. Rydym o’r farn na ddylai unrhyw un yng Nghymru orfod byw mewn cartref oer.