Newyddion a diweddariadau ynglyn â Thlodi Tanwydd

Y diweddaraf: 13eg Ionawr 2010, heddiw yn y Senedd, dadleuodd y Cynulliad materion ynghlych Tlodi Tanwydd ac Arbed Ynni, gyda Mark Isherwood AC (Ceid) yn tablu dadl ynghylch y Siarter Tlodi Tanwydd yng Nghymru. Galwodd yr aelod ar gyfer Gogledd Cymru, ynghyd a’r Cynghrair Tlodi Tanwydd ac Aelodau’r Cynulliad, ar ‘Mae Cynulliad Cymru yn cefnogi’r siarter tlodi tanwydd ac yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i ymgorffori amcanion polisi’r siarter yn ei strategaeth tlodi tanwydd ar ddod.

Y Diweddaraf: 13eg Ionawr 2010, mewn erthygl ar gyfer Waleshome.org gofynnai Gareth Price, aelod o’r cynghrair, os allwn fforddio ddileu tlodi tanwydd yn ystod y cyfnod anodd yma.

Diweddariad: 12 Ionawr 2010, Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi data ymchwil gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yngl?n â marwolaethau ychwanegol yn y gaeaf yng Nghymru. Mae’r ystadegau yn cynnwys data ar gyfer Cymru a Lloegr ac yn ymwneud â chyfnod y gaeaf 2008/2009, yn seiliedig ar ystadegau a ryddhawyd gan yr ONS ar 24 Tachwedd 2009.

Yn ystod y cyfnod 2008-2009, cynyddodd nifer y marwolaethau ychwanegol yn y gaeaf yng Nghymru 74% o 1,440 yn y flwyddyn flaenorol i 2,500 o bobl, sef y nifer uchaf ers 1999/2000. Mae’r cynnydd hwn mewn marwolaethau yn y gaeaf yn cyfateb yn uniongyrchol i’r gostyngiad yn nhymheredd y gaeaf yn 2008-2009. Mae’n achos pryder bod y data yn dangos mai pobl 75 oed a h?n yw 80% o’r holl farwolaethau yn y gaeaf, a bod y cyfraddau marwolaethau uchaf yn ymwneud â phobl 85 oed a h?n yn ystod 2008-09. Mae’r data yn dangos bod cyfraddau marwolaethau ar gyfer pobl 85 oed a h?n wedi cynyddu i 152 o bob 1,000 o farwolaethau yng Nghymru o’i gymharu ag 1.2 o bob 1,000 o farwolaethau ar gyfer pobl rhwng 0 a 64 oed. Roedd cyfanswm y marwolaethau yn y gaeaf yn 2008/2009 26% yn uwch, ar yr olwg gyntaf, na’r cyfartaledd ar gyfer marwolaethau nad ydynt yn digwydd yn y gaeaf.

Y diweddaraf: 4ydd Ionawr 2010, Ymateb i’r Siarter Tlodi Tanwydd gan y CLlLC.

Y diweddaraf: Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi agor ei Strategaeth Todi Tanwydd ddrafft i ymgynghoriad cyhoeddus hyd at 4 Ionawr 2010. Mae’r Gynghrair Tlodi Tanwydd wedi ysgrifennu ymateb manwl i’r ymgynghoriad ar y 9 mater allweddol sydd wedi ymddangos o’r adroddiad ddrafft. Gobeithiwn yr ystyriwch roi ymateb eich hun, yn cefnogi ein sylwadau neu’n cynnwys materion y teimlwch nad ydynt wedi’u cynnwys o fewn y strategaeth ddrafft.  

Dylai pob ymateb cael ei ddanfon i Lywodraeth Cynulliad Cymru: neespteam@wales.gsi.gov.uk

Y diweddaraf: 10fed Rhagfyr 2009, ymateb gweinidogaethol gan David Kidney AS, Is-Ysgrifennydd Seneddol ar gyfer yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd, ar y Siarter Tlodi Tanwydd yng Nghymru

Y diweddaraf: 9fed Rhagfyr 2009, Cliciwch yma i weld yr Oriel o AS yn cytuno i rhoi eu Cefnogaeth i’r Siarter Tlodi Tanwydd yng Nghymru.

Y diweddaraf: 4ydd Rhagfyr, ymateb Ofgem i Strategaeth Tanwydd Cymru. Mae’r llythyr yn ymateb  i gyhoeddi’r Siarter, gan ei gefnogi fel cynllun allweddol i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru.

Y diweddaraf: 26ain Tachwedd 2009, Jenny Willott AS yn cyflwyno Cynnig Cynnar-yn-y-dydd (EDM 260) i’r Senedd ynghylch Tlodi Tanwydd yng Nghymru.

 Y diweddaraf: 10fed Tachwedd 2009, Ymateb i Siarter Tlodi Tanwydd Cymru gan Jane Davidson AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r Gweinidog yn croesawu nodau’r siarter ac yn amlinellu mesurau Strategaeth Tlodi Tanwydd ddrafft sydd newydd ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Y diweddaraf: 20fed Hydref 2009, Cyhoeddwyd Siarter Tlodi Tanwydd: Trobwynt yn y frwydr yn erbyn tlodi tanwydd yng Nghymru gan NEA Cymru, Llais Defnyddwyr Cymru a nifer o randdeiliaid allweddol arall.

Y diweddaraf: 15fed Gorffennaf 2009, gwnaeth Jane Davidson AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai ddatganiad yn cadarnhau y byddai’n ymgynghori unwaith yn rhagor ar strategaeth tlodi tanwydd diwygiedig cyn cyhoeddi fersiwn derfynol. Rydym yn disgwyl y bydd y strategaeth ddrafft yn cael ei lansio ar gyfer ymgynghoriad yn ystod yr hydref. Mae partneriaid y gynghrair yn croesawu’r ymagwedd hon, sydd, yn ein barn ni, yn rhoi cyfle i weld sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu mynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru mewn dogfen fwy eglur ar wahân, ac rydym yn gobeithio y bydd y pryderon a amlygwyd gan sefydliadau unigol wedi derbyn sylw yn y ddogfen ddiwygiedig hon. Rydym yn gobeithio y bydd datblygu siarter tlodi tanwydd yn helpu i ganolbwyntio ar rai meysydd allweddol a ddylai fod yn flaenoriaeth ar gyfer strategaeth tlodi tanwydd newydd.

Y diweddaraf: Mawrth 2009: Lansiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru eu Cynllun Cenedlaethol drafft ar gyfer Effeithlonrwydd ac Arbedion Ynni, gan ymgorffori cynigion i ddiweddaru gwaith Llywodraeth y Cynulliad ar dlodi tanwydd. Y nod oedd y byddai’r cynigion hyn yn bwydo i strategaeth tlodi tanwydd newydd.